2012 Rhif 1288 (Cy. 165) (C. 45)

y gwasanaeth iechyd gwladol, cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, yng Nghymru, ddarpariaethau adrannau 20 a 21 o’r Ddeddf, sy’n gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth flaenorol mewn perthynas â thybaco.

 Mae hefyd yn dwyn i rym, yng Nghymru, ddarpariaethau yn Atodlen 4 i'r Ddeddf (sy'n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â thybaco). Mae'r mân ddiwygiadau a'r diwygiadau canlyniadol hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym ar 1 Mehefin 2012 ac sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru gymryd drosodd yr achosion sy'n ymwneud â throsedd a gyflawnwyd yng Nghymru ac a gychwynnwyd yng Nghymru a Lloegr gan berson arall o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 neu unrhyw reoliadau a wneir odani. 

Mae darpariaethau mewn perthynas ag arddangos prisiau cynhyrchion tybaco yn cael eu cychwyn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 3 Rhagfyr 2012 at ddibenion siopau mawr (fel y'u diffinnir) ac at bob diben arall ar 6 Ebrill 2015.

Mae darpariaethau mewn perthynas â gwahardd arddangosiadau tybaco ac â'r eithriadau ac amddiffyniad sy'n gysylltiedig â hwy yn cael eu cychwyn,  i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 3 Rhagfyr 2012 at ddibenion siopau mawr nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco (fel y'u diffinnir) a gwerthwyr tybaco arbenigol (fel y'u diffinnir yn adran 6 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002) ac at bob diben arall ar 6 Ebrill 2015.

 Mae darpariaethau mewn perthynas ag eithrio gwerthwyr tybaco arbenigol o'r gwaharddiad ar hysbysebu yn cael eu cychwyn ar 6 Ebrill 2015.

 

 

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn O.S. 2010/930 (Cy.95) (C.63) ac O.S. 2011/2362 (Cy.248) (C.83).  

 

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Adran 19

1.4.2010 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 14 i 17, 18 a 19 o Atodlen 3). 

Adran 22

1.2.2012 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym).

Atodlen 3, paragraffau 14 i 17

1.4.2010.

Atodlen 3, paragraffau 18 a 19

1.4.2010.

 

Mae darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 36

19.1.2010.

2010/30 (C.5).

Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymu mewn perthynas â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p.12), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno.

1.10.2011.

2010/1068 (C.70) fel y’i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49).

Atodlen 6 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r diddymu mewn perthynas ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36), ac adran 38 i’r graddau y mae’n rhoi effaith i’r ddarpariaeth honno.

6.4.2012.

2010/1068 (C.70) fel y’i diwygiwyd gan  2011/1255 (C.49).

    Mae amryw o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C.5); O.S. 2010/779 (C.52); O.S. 2010/1068 (C.70); O.S. 2010/1863 (C.95) ac O.S. 2011/1255 (C.49).

 


2012 Rhif 1288 (Cy. 165) (C. 45)

y gwasanaeth iechyd gwladol, cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2012

Gwnaed                                    14 Mai 2012

 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau sydd wedi eu cynnwys yn adran 40(2)(b) o Ddeddf Iechyd 2009([1]). 

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2012.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” (“relevant floor area”), mewn perthynas â siop, yw arwynebedd mewnol y llawr o gymaint o'r siop ag sy’n cynnwys, neu sy’n rhan o adeilad ond gan eithrio unrhyw ran o'r siop nad yw'n cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau nac ar gyfer arddangos nwyddau;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009;

mae i “gwerthwr tybaco arbenigol” yr ystyr a roddir i “specialist tobacconist” yn adran 6 o Ddeddf  Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002([2]);

ystyr “pecyn” (“package”) yw unrhyw flwch, carton neu gynhwysydd arall;

ystyr “pecyn gwreiddiol” (“original package”) yw'r pecyn y cyflenwyd y sigaréts neu’r tybaco rholio â llaw ynddo gan y gweithgynhyrchwr neu’r mewnforiwr at  ddibenion manwerthu;

ystyr “siop fawr” (“large shop”) yw siop lle y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn fwy na 280 o fetrau sgwâr; ac

ystyr “swmpwerthwr tybaco” (“bulk tobacconist”) yw siop sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco (p'un a yw'n gwerthu cynhyrchion eraill neu beidio) ac y mae ei gwerthiannau sigaréts neu dybaco rholio â llaw, a fesurir yn unol â pharagraff (4), yn cydymffurfio â'r amodau canlynol—

                           (i)    bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau sigaréts yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 200 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 100 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol; a

                         (ii)    bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau tybaco rholio â llaw yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 250 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 125 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol; 

(4) Mae’r gwerthiannau y cyfeiriwyd atynt yn y diffiniad o “swmpwerthwr tybaco” i’w mesur yn ôl y pris gwerthu—

(a)     yn ystod y cyfnod mwyaf diweddar o ddeuddeng mis y mae cyfrifon ar gael ar ei gyfer; neu

(b)     yn ystod y cyfnod ers sefydlu’r siop, os nad yw wedi ei sefydlu'n ddigon hir i’r cyfrifon ar gyfer deuddeng mis fod ar gael.     

Diwrnodau penodedig

2.(1)(1) 1 Mehefin 2012 yw’r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Atodlen 4 i’r Ddeddf—

(a)     paragraff 7(6);

(b)     paragraff 8(1) a pharagraff 8(3); ac

(c)     paragraff 2 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a restrir yn (a) a (b).

(2) 3 Rhagfyr 2012 yw’r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

(a)     adran 21 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco etc.) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco, arddangosiadau tybaco: eithriadau ac amddiffyniad ac arddangosiadau: prisiau cynhyrchion tybaco), at ddibenion siopau mawr nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco nac yn werthwyr tybaco arbenigol;

(b)     y paragraffau canlynol o Atodlen 4, ac adran 24 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny—

                           (i)    paragraff 6(2) a pharagraff 6(1) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r is-baragraff hwnnw;

                         (ii)    paragraff 10;

                       (iii)    paragraffau 11 a 12 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;

                        (iv)    paragraff 2 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a restrir yn (i) i (iii).  

(3) 6 Ebrill 2015 yw’r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

(a)     adran 20 (gwaharddiad ar  hysbysebu: eithrio gwerthwyr tybaco arbenigol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)     adran 21 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco etc.) i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, ac i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(c)     y paragraffau canlynol o Atodlen 4, ac adran 24 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny—

                           (i)    paragraff 2 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

                         (ii)    paragraff 3; a

                       (iii)    paragraff 4(2) a (5) a pharagraff 4(1) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r is-baragraffau hynny.                 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

14 Mai 2012

 



([1])           2009 p.21.

([2])           2002 p.36.